Heddiw
Eden
Popularity · Low
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Heddiw nôl
Fe ddaeth heddiw nôl
Heddiw nôl,
Fe ddaeth heddiw nôl,
Mae dy nerth
A mae dy liw
Yn dy wneud di'n werth dy fyw.
Ma holl liwiau dy wawr yn addo
Dewisiade i mi o hyd,
Yn goleuo bob heol yn fy myd.
Ac wrth I ti fy siglo'n araf
O'r breuddwydion fu'n llenwi mhen
Be sydd gen ti sy'n gorwedd tu ôl i'r llen?
Peder awr ar hugen i newid ffawd
Dwi am fyw gyda gwên a chariad
Yn yr orie ti hefo fi,
ac am ddawnsio yn ôl dy egni di,
Am dy gydio'n fy nwylo'n dynnach
Na wnes i erioed o'r blaen,
Ti yn ôl er mwyn imi symud mlaen.
Byw i ti a byw a phob un awr sy ynot ti
Dwi'n achub fy nydd,
Ei lenwi â'r ffydd
I fyw'n y presennol gan gofio
Fod bob dydd yn daith"