Skip to content

Dŵr

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Dŵr Dŵr Dŵr sydd yn llifo dros y wlad Lle bu fy mam a 'nhad A'm brodyr a'm chwiorydd A minnau'n byw Daeth y Saeson gyda'u stŵr I osod haen o ddŵr Mor dyner ac mor dirion Dros drigfannau 'mro Dyma lle bu'r caeau Dyma lle bu'r coed Lle rhedai plant y cwm yn ysgafndroed Dyma lle bu'r ysgol Dyma lle bu'r llan Dyma lle bûm innau'n byw Ond dŵr Dŵr Dŵr sydd yn siglo yn yr awel A'i wyneb o mor dawel A diniwed ac oer a glân Ond dyn gyda'i holl wybodaeth Defnyddiodd ein llywodraeth I roi terfyn ar fywyd y dyffryn hwn Dyma lle bu'r ffermydd Dyma lle bu'r ffordd Dyma'r capel lle y magwyd llawer bardd Dyma lle bu adlais lleisiau Yn torri aur dydd haf Dyma lle bûm innau'n byw Dŵr Dŵr Dŵr fu'n yn gyfaill i mi'n blentyn A drowyd yn arf yn erbyn Popeth sydd yn annwyl ac yn ddrud i mi Dŵr sydd yn tewi lleisiau'r ffermwyr Rhag blino yr ymwelwyr A tharfu ar yr heddwch gyda'u sŵn Dyma'r dŵr sy'n drymach Nag unrhyw garreg fedd A'r distawrwydd na rydd byth i'r enaid hedd Dyma lle y claddwyd Corff oedd eto'n fyw Dyma lle llofruddiwyd enaid bro Gan ddŵr Dŵr