Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Codi'r Faner (Barti Ddu)
The Night School
Popularity · Low
+
Original
0
0
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Yn y flwyddyn 1682 ganwyd John Roberts yng Nghasnewydd bach
Ac nid oedd y moroedd yn ddiogel o'r eiliad camodd ar fwrdd ei long
Teimlodd y tonnau morlas
Breuddwydiodd am fywyd rhydd
Un gyfartal i'w gymdeithas
Arweinydd fe ddaw un dydd
Penderfynodd i deithio'r byd
Hwyliodd dros y goron
Tan un diwrnod hyll a waedlyd
Sylweddolodd ei atebion
Cuddiwch o'i hwyliau mawr
'Sneb yn ddiogel nawr
Peidiwch ag edrych tu ôl i'r gorwel
Dim ond un peth y byddwch yn weld
Y boi o Sir Benfro
Bydda'n barod i benlinio
I'r boi o Sir Benfro
Cymylau du yn rholio
Dyma'r enw fyddwch yn cofio
Ar un fore Chwefror, pan oedd ei griw yn feddw a dryslyd
Ymosododd llong Y Wennol
Gan derfynu Barti a'i reolaeth dros y moroedd
Dyma fe
Hwyliau du
Dyma'r amser i orchfygu
I'r gad
Ffrwydrad
Dyma oes euraidd mor ladrad
Cuddiwch o'i hwyliau mawr
'Sneb yn ddiogel nawr
Peidiwch ag edrych tu ôl i'r gorwel
Y boi o Sir Benfro
Bydda'n barod i benlinio
I'r boi o Sir Benfro
Taflwyd corff Barti i'r ddyfnderoedd
A dyna lle mae'n aros hyd heddiw
Môr-leidr rhydd hyd yn oed mewn marwolaeth