Skip to content

Fel Hyn

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Swn y beat ar bass ar waelod i'n sodlau, Ein enaid ar agor a'n llygaid ar gau Rhythm o'n pen trwy ein gwythiennau Awen beat a Go ar goll yn y cae. Pa hawl sydd gen ti I feirniadu Pethau hyfryd yn cael eu dedfrydu Amser braf y gaf wrth arafu, Wyt ti'n genfigenus fo 'ni fyny fry? Oes gen ti broblem hefo CBD? Ydio'r blodyn syn dy drwblu di? Dim pawb sydd isio bod fel bob Marley, Live and Let live paid a pendroni. Ond rywsut rwyt ti isio fy rhwystro i Bywyd y don sy'n bwydo'n enaid ni Dim Disgwyl i ti fod fel Pen Dub A fi Ymunwch a hwyl ir gwyl a mynd gyda'r lli Y tap yn rowlio fel hyn Synfyfyrio fel hyn Dal i rocio fel hyn Y mic dwi'n lleisio fel hyn Ar yr offeryn fel hyn Canu fel deryn fel hyn A pawb yn dilyn fel hyn, fel hyn, fel hyn. Rho I mi flas o'r dub beat a bass Llwyfan a speakers fan hyn yw ein plas Dewch pab ynghyd pob mynydd a stryd Skancwyr I gyd da'n gilydd 'run pryd. Fel cae llawn o ŷd I bawb yn byd Gobaith syn machlud mewn celfyddyd Cawn flodyn bach hyfryd gan hadyn bach hyd Hwn yw ein dydd cawn fod yn rhydd I bawb sy'n gwybod be diw'n siarad am O Lansannan draw I amsterdam Cam wrth gam fesul gram Pawb fel un da ni'n tanio'r fflam Os ei di heibio bryniau gwyllt yr Eryri Ar lwybrau'r derwydd lawr trwy Pwllheli I'r pub ble mae pen dub yn darparu Reggea ar y traeth fel yn y Caribi Fe gei di werth dy daith a mwy o beats one drop Skankio a stompio ir cur yn ddi-stop Bendigedig yw y rig sy'n dirgrynu Mor osgeiddig a swynedig drwy'r nos ar dydd Y tap yn rowlio fel hyn Synfyfyrio fel hyn Dal i rocio fel hyn Y mic dwi'n lleisio fel hyn Ar yr offeryn fel hyn Canu fel deryn fel hyn A pawb yn dilyn fel hyn, fel hyn, fel hyn. Swn y beat ar bass ar waelod i'n sodlau, Ein enaid ar agor a'n llygaid ar gau Rhythm o'n pen trwy ein gwythiennau Awen beat a Go ar goll yn y cae.