Gwahoddiad (Arglywydd Dyma Fi)
Popularity · Low
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Mi glywaf dyner lais
Yn galw arnaf fi
I ddod a golchi 'meiau'i gyd
Yn afon Calfari
Arglwydd dyma fi
Ar dy alwad Di
Canna f'enaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari
Yr Iesu sy'n fy ngwadd
I dderbyn gyda'i saint
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd
A phob rhyw nefol fraint
Arglwydd dyma fi
Ar dy alwad Di
Canna f'enaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari
Gogoniant byth am drefn
Y cymod a'r glanhad
Derbynia'r Iesu fel yr wyf
A chanaf am y gwaed
Arglwydd dyma fi
Ar dy alwad Di
Canna f'enaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari
Arglwydd dyma fi
Ar dy alwad Di
Canna f'enaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari