Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Clywed dy Lais
Bwncath
Popularity · Low
+
Original
0
0
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn 'ngalw i yn ôl o'r paith
O'r diffeithwch fuodd gynt
'R wyf yn hwylio ar y gwynt
Dw i 'di bod ers amser maith
Yn chwilio'n daer am byllau dŵr ar y daith
Erbyn hyn ma' nghwddw'n sych
Mi fodlona i ar gysgod y gwrych
Mi welais ddŵr mor glir, 'doedd o'm yn wir
Dim ond gwres yn dawnsio ar dir
Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn 'ngalw i yn ôl o'r paith
O'r diffeithwch fuodd gynt
'R wyf yn hwylio ar y gwynt
Daeth dy lais yn rhan o 'myd
Yn fuan iawn ar ôl mi adael y crud
I fy hebrwng fesul troed
Tua'r glastir bras lle tyfai y coed
Es i ar goll cyn hir mewn anial dir
Collais olwg ar y gwir
Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn 'ngalw i yn ôl o'r paith
O'r diffeithwch fuodd gynt
'R wyf yn hwylio ar y gwynt
Galw fi yn ôl
Am lymaid bach o ddŵr
Galw fi yn ôl
Am lymaid bach o ddŵr
Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn 'ngalw i yn ôl o'r paith
O'r diffeithwch fuodd gynt
'R wyf yn hwylio ar y gwynt
Ma'i mor braf clywed dy lais
Yn 'ngalw i yn ôl o'r paith
O'r diffeithwch fuodd gynt
'R wyf yn hwylio ar y gwynt