Can Yr Ysgol
Popularity · Low
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Pan oeddwn i rhyw flwydd neu ddwy yn iau
A minnau'n fachgen bochgoch bach, di-fai
Mi awn i'r ysgol fel bob bachgen bach da
Drwy niwl a glaw boed aea' neu'n boed ha'
Ond yn yr ysgol, mi ges
Lessyns History
Lessyns Geography
Lessyns Inglish o hyd ac o hyd
Ac ambell i lessyn, yn Welsh - chwarae teg
Am mai Cymro bach oeddwn i
Fe alwai Mam bob bore am saith o'r gloch
Gan weiddi yn Gymraeg
"Wel cwyd os wyt am dy gig moch"
Ar ôl imi godi a llyncu'r bwyd i lawr
Yn Gymraeg y dymunai'n Nhad a Mam "Hwyl fawr"
Ond yn yr ysgol, mi ges
Lessyns History
Lessyns Geography
Lessyns Inglish o hyd ac o hyd
Ac ambell i lessyn, yn Welsh - chwarae teg
Am mai Cymro bach oeddwn i
A chyda'r nos mi awn am dro bach i'r coed
Ac yno y bûm i'n caru'n gynta' erioed
O dan y llwyni rhoes fy nghalon i hi
Ac yn Gymraeg y sibrydiai
"O rhyw'n dy garu di"
Ond yn yr ysgol, mi ges
Lessyns History
Lessyns Geography
Lessyns Inglish o hyd ac o hyd
Ac ambell i lessyn, yn Welsh - chwarae teg
Am mai Cymro bach oeddwn i
Ac ar y Sul mynd i'r capel oedd fy mraint
A darllen beibl William Morgan yng nghwmni'r saint
Cymraeg siaradai yr Iesu am a wyddwn i
A Chymraeg oedd iaith pob gweddi siŵr i chi
Ond yn yr ysgol, mi ges
Lessons History
Lessons Geography
Lessons Inglish o hyd ac o hyd
Ac ambell i lessyn fach
Ie, dim ond ambell i lessyn fach
Yn Welsh chwarae teg!
Am mai Cymro bach oeddwn i