Skip to content

Llwyn Onn

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Yn Nyffryn Llwyn Onn draw mi welais hardd feinwen A minnau'n hamddena 'rol byw ar y don Gwyn ewyn y llu oedd ei gwisg, a disgleirwen A'r glasfor oedd llygaid Gwen harddaf Llwyn Onn A ninnau'n rhodiana drwy'r lonydd i'r banna Sibrydem i'n gilydd gyfrinach byd serch A phan ddaeth hi'n adeg farwelio a'r wiwdeg Roedd tannau fy nghalon yng ngofal y ferch Cyn dychwel i borthladd wynebwn y tonnau Ond hyfryd yw'r hafan 'rol dicter y don Bydd melys anghofio her greulon y creigiau Un felly o'wn innau 'rol cyrraedd Llwyn Onn A thawel mordwyo wnaf mwyach a Gwenno Yn llong fach ein bwthyn a hi wrth y llyw A hon fydd yr hafan ddiogel a chryno I'r morwr a'i Wenno tra byddwn ni byw