Skip to content

'Sa Neb Fel Ti

Eden
Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Byd o lunie, byd o ddelwedde Celwydd noeth rheole cudd, Sgrîn yn sgrechian Cydymffurfia! Dyma'r drefn i ti am byth Ond ma gen ti lais i weiddi, Enaid i dy symud mlaen A ti'n ddewr A ti'n gry A sa neb Yn y byd fel ti O ... Paid â gwrando arnyn nhw Di nhw'm yn gwbod sut i neud dy fyd di droi, Dal dy ben yn uchel A dangosa i bawb fod gen ti gymaint mwy i'w roi, ie mwy i'w roi Tro dy wyneb at yr haul Cymer popeth sydd ar gael I ti. Wyt ti'n gaeth i blygu i'r pwyse Isie perthyn, isie'r clod, Byth yn teimlo bo' ti yn ddigon, Methu yw dy fyw a bod? Ma' nhw'n esgus bywyd perffaith, Ond does na ddim fath beth yn bod, Mond i ti Fod yn driw I ti dy hun Fe ddaw dy awr i dywynu. A ti'n ddewr A ti'n gry A sa neb Yn y byd fel ti