Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Pen y Mynydd
Bwncath
Popularity · Low
+
Original
0
0
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Ar eu taith i ben y mynydd cerddwn fesul troed
Pennau bach sy'n uwch i fyny yn chwerthin yn y coed
I'r rhain ymysg y brigau mae'r copa'n bellach fyth
Bydd rhaid syrthio o'u canghennau a chychwyn arni'n syth
Ond mae'r byd yn ofer
Efo'n gilydd awn i ben y mynydd
A maddau ein hun am chwarae yn y coed
Awn ymlaen drwy ganu mewn llawenydd
Mae pen y daith yn agosach nag erioed
Ar y daith i ben y mynydd dilynais i'r dorf
Syrthio mewn i fôr o gelwydd fe gollais i fy ffordd
Ond fel d'wed yr hen dihareb "Y dall sy'n arwain y dall"
Felly hunan-gyfrifoldeb ydy'r unig ateb call
Ond mae'r byd yn ofer
Efo'n gilydd awn i ben y mynydd
A maddau ein hun am chwarae yn y coed
Awn ymlaen drwy ganu mewn llawenydd
Mae pen y daith yn agosach nag erioed
Ond mae'r byd yn ofer
Efo'n gilydd awn i ben y mynydd
A maddau ein hun am chwarae yn y coed
Awn ymlaen drwy ganu mewn llawenydd
Mae pen y daith yn agosach nag erioed