Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Melyn
Bwncath
Popularity · Low
+
Original
0
0
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Gwêl yr hyn sy gan hwn yn ei hanfod
Melyn ddwys rhwng ei fysedd main a hir
Dwylo gwyn, dwylo glân sydd yn datod
I ddangos cyfoeth a gipiwyd gan y tir
Mae'r mêl, mae'r mêl 'di darfod
A'r llaeth 'di troi yn sur
Ac ers i'r dwylo ddatod
Yr aur sy'n wenwyn pur
Nawr gwêl hwn yn ei gwman yn agor
Ei ddwylo caled o rychau, pridd a baw
Os drwy lafur neu lwc daw at drysor
Purach fyth fydd prydferthwch yn ei law
Mae'r mêl, mae'r mêl 'di darfod
A'r llaeth 'di troi yn sur
Ac ers i'r dwylo ddatod
Yr aur sy'n wenwyn pur
Mae'r mêl, mae'r mêl 'di darfod
A'r llaeth 'di troi yn sur
Ac ers i'r dwylo ddatod
Yr aur sy'n wenwyn pur
Mae'r mêl, mae'r mêl 'di darfod
A'r llaeth 'di troi yn sur
Ac ers i'r dwylo ddatod
Yr aur sy'n wenwyn pur