Skip to content

Yr Insiwrans Agent

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Wel, dyma hi yn ddeche Ar bawb o wŷr y clwbe 'Do's gwaith nac arian yn y wlad Na dim mwynhad yn unlle I'r agent byddwch dyner O dan ei faich o bryder A pheidiwch iddo fod yn gas Fel rhai di-ras fel Caiser Ei got sy'n llwyd amdano Ac army boots mae'n wisgo A choes ymbrelo yn walking stick Er bod yn gwic ei osgo Ac am ei wydd bob amser Mae'n gwisgo coler paper A chadach gwyn o gwdyn can A gadd yn rhan gan 'Spiller Hen stori glwc fel yma Ga'r truan ar ei yrfa- "O! Call again, I'll pay you all When you will call tro nesa" "O! Call again, I'll pay you all When you will call tro nesa" Ond thanks am ambell swper I'r agent sydd yn dyner A gwen yn dyner ar ei rudd Fel gwawr y dydd bob amser