Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Y Darlun
Cerys Matthews
Popularity · Low
+
Original
0
0
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Dwy law yn erfyn
Sydd yn y darlun
Wrth ymyl fy ngwely
Bob bore a nos
Mae'u gweddi'n un dlos
Mi wn er na chlywaf hi
Pan af i gysgu
Mae ddwy law hynny
Wrth ymyl fy ngwely
Mewn gweddi ar Dduw
I'm cadw i'n fyw
Mi wn er na chlywaf hi
A phan ddaw'r bore
A'r wawr yn ole
Wrth ymyl fy ngwely
Mae'r weddi o'r hyd
Yn fiwsig i gyd
Mi wn er na chlywaf hi
Rhyw nos fach dawel
Fe ddwg yr awel
O ymyl fy ngwely
Yr weddi i'r sêr
Fel eos o bêr
A minnau'n ei chlywed hi