Skip to content

Adenydd

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Yr un hen eiriau'n troi o hyd, blino trio eu dal ynghyd, a oeddet ti'n disgwyl mwy gen i, chdi a fu'n disgwyl hyn mor hir? Wel dw i yma'n fyddar ac yn fud, bron na alla i wneud dim byd, dim ond chwilio geiriau sy' ddim am ddod, ella nad o'n nhw gin i erioed. Mae'r tŷ yn wag, a ti ar drai, be ddigwyddodd i ni'n dau? Ai'r holl ddyddiau hir a syn o wylio'n gras ni'n gwisgo'n ddim? Dw i'n chwilio hoel dy hanes di, ym mhob man y buom ni, chwilio llefydd sy' ddim yn bod, llefydd na fues i rioed. O ran ni'n dau, ro'n i'n meddwl, waeth pa le'r ai, y bysa ti yno o 'mlaen i, ond erbyn hyn ti ddim, ti di mynd, fy ffrind, a dw i ar dân, o fflamau gwan i ddim byd ond lludw gwyn. Dw i'n teimlo rhan ohona' i'n mynd, ar adenydd sydd bron â gwisgo'n ddim, a'r holl bobol y gallwn fod, i ti, ella nad rheini fydda i byth, i ti.