Hedfan
Popularity · Low
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Enw yr ysbryd sy'n byw yn fy stafell i
Sy'n canu yn dawel pan ydw i'n cysgu
So fe di mynd, so fe di mynd
Beth ma nhw'n gwylio
Y lliwiau'n ein pennau ni?
Storïau y nos a'r syniad anghofies i
So nhw di mynd, so nhw di mynd
A daethon ni yn ôl i fynd i lawr i'r môr
A cico cico coesau'n wlyb i gyd
Yr halen yn y blas, ie paid â rhoi dim mas
A cadw fe'n dy ysgyfaint bant o'r byd
Aros yn llonydd i feddwl amdanon nhw
Ma popeth mor fawr yn y chwys a'r lludw
So nhw di mynd, so nhw di mynd
Un tro es i yn ôl i'r lle
O'n i'n gwisgo dillad
O'n i ben fy hun
Troi'n aderyn a hedfan lan
Dros y bryniau a mas o ma
Un tro des di gyda fi
Odd dy wisg di'n ysgafn ac yn llawn o blu
O ti yn hedfan wrth fy ochr i
Ac o'n ni da'n gilydd nes y diwedd un