Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Coedwig ar Dân
Bwncath
Popularity · Low
+
Original
0
0
YouTube
Searching YouTube...
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Ma' coedwig ar dan wrth yn ffin yn Guatemala
A disgyn mae'r ser ar y ffordd i Choroni
Goleuadau'r gogledd yn pefrio yng Nghaeredin
A tithau ar fy meddwl i
A phan mae bywyd yn anodd a finna'n rhan o'r syrcas
Teimlo'r nos yn cau amdana' fi
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
Yr oeddwn yn teimlo gwres dy gariad
Ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli
Mae'r cymylau yn ddu uwchben Santa Maria
Sŵn y seiren yn groch ar y stryd yn Bangor, Maine
Clycha'n canu heno dros y muriau llwyd yn Bandon
A dwi'n hiraethu am dy wên
A phan mae bywyd yn anodd a finna'n rhan o'r syrcas
Teimlo'r nos yn cau amdana' fi
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
Dwi'n teimlo gwres dy gariad
Ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli
Mae'r lleuad yn llawn dros y tywod yn Lamorna
Bwrw glaw yn Vienna, mellt a thrannau yn Tralee
Mae'n hanner nos yn Chichicastenango
A tithau ar fy meddwl i
A phan mae bywyd yn anodd a finna'n rhan o'r syrcas
Teimlo'r nos yn cau amdana' fi
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
Dwi'n teimlo gwres dy gariad
Ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli