Skip to content

Tra Bo Dau

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Mae'r hon a gâr fy nghalon i Ymhell oddi yma'n byw A hiraeth am ei gweled hi A'm gwnaeth yn llwyd fy lliw Cyfoeth nid yw ond oferedd Glendid nid yw yn parhau Ond cariad pur sydd fel y dur Yn para tra bo dau O'r dewis hardd ddewisiais i Oedd dewis lodes lân A chyn brydd difar gennyf fi O rewi wnaiff y tân Cyfoeth nid yw ond oferedd Glendid nid yw yn parhau Ond cariad pur sydd fel y dur Yn para tra bo dau Mae f'annwyl rian dros y lli Gobeithio'i bod hi'n iach Rwy'n caru'r tir lle cerdda hi Dan wraidd fy nghalon fach Cyfoeth nid yw ond oferedd Glendid nid yw yn parhau Ond cariad pur sydd fel y dur Yn para tra bo dau