Skip to content

Calon Lan

Popularity · Low

YouTube

Searching YouTube...

Lyrics

Nid wy'n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na'i berlau mân: Gofyn wyf am galon hapus, Calon onest, calon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. Pe dymunwn olud bydol, Chwim adenydd iddo sydd, Golud calon lân, rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. Hwyr a bore fy nymuniad Esgyn ar adenydd cân, Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. (Alternate) Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos.