Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
Chwyn Chwyldroadol!
Gruff Rhys
Popularity · Low
+
Original
0
0
Listen
YouTube
1
2
3
0:00 / 0:00
Loading YouTube player...
Lyrics offset
Synced
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Wel dwi'n achwyn achwyn achwyn am y
Chwyn chwyldroadol sy'n dinistrio fy ngardd
Ond mae'n anodd cychwyn achwyn am
Eu dail bendigedig sydd yn edrych mor hardd
Chwyn i rai, aur i eraill
Shwn i rai, i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigaeth
Drwy gerddoriaeth, gweledigaeth
Tra dwi'n ceisio a phwysleisio
Fod rhaid mynd i'r blwch pleidleisio
Does dim taw ar fy nghwyn
Fel cors heb y brwyn
A tra sudda ffin fy llodrau
Does dim blodau ddigon bodlon
All droi 'mylon fy ngheg
Yn gryman fach deg
Chwyn i rai, aur i eraill
Shwn i rai, i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigaeth
Drwy gerddoriaeth, rhywstredigaeth
Pan ddaw tro ar fyd
Fry o fewn y gwagle
Troellwn yn ddidaro
Mewn dirfodaeth drwyddi draw
Chwyn i rai, aur i eraill
Shwn i rai, i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigaeth
Drwy gerddoriaeth, gweledigaeth
Chwyn i rai, aur i eraill
Shwn i rai, i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigaeth
Drwy gerddoriaeth, profedigaeth