Skip to content

Tragwyddoldeb

Popularity · Low

Listen

YouTube

0:00 / 0:00
Loading YouTube player...
Lyrics offset
Synced

Lyrics

Tragwyddoldeb Tragwyddoldeb Beth yw'th hyd di Dragwyddoldeb? Atat cyrchu a wna amser Fel march rhyfel yn ei gryfder Fel rhedegwyr, y cyflyma Llong i borth, neu saeth o fwa Megys pelen gron gyfanedd Heb fod iddi ben na diwedd Felly Tragwyddoldeb yntau Sydd heb ddiwedd ac heb ddechrau Tragwyddoldeb Tragwyddoldeb Beth yw'th hyd di Dragwyddoldeb? Cylch wyt ti sy'n ddiderfynol 'nawr tragywydd yw dy ganol Tu hwnt cyraedd neb creadur Allu rhoddi arnat fesur Gall aderyn gym'ryd ymaith Mewn maith amser fynydd helaeth Trwy ddod unwaith bob cann mlynedd Gwedi hyn – hyd nes dy ddiwedd Tragwyddoldeb Tragwyddoldeb Beth yw'th hyd di Dragwyddoldeb?