Skip to content
Lyric
Dive
Public playlists
My playlists
Search
Sign in
'Nol A Mlaen
Big Leaves
Popularity · Low
+
Original
0
0
Listen
YouTube
1
2
3
0:00 / 0:00
Loading YouTube player...
Lyrics offset
Synced
Lyrics
Original
Translation
Bilingual
Pob un cam yn oll-gyfarwydd,
Ac wrth ffoi o dre dy fedydd
ti'n bwrw angor heb fygwth newid.
Gweld dy hun fel rhan o'r tirlun,
Ti'n troi dy law at boeri gwenwyn,
Pam taflu baw ar bob un dieithryn?
Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear,
Oes yn eiliad - dyna'r dyddiau'n rhewi,
Wyt ti'n gaeth yn dy filltir sgwâr di?
Rhaid wrth wae ar droad canrif,
Ceisio cwtogi'r anghyfarwydd,
Wel, sgen ti ateb aderyn drycin?
Llawenhawn yn oll unedig
heb daflu gwawd fy mrawd colledig,
Cawn weld yr aur ar y wawr drwy'r machlud.
Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a daear,
Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don,
Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a daear,
Oes yn eiliad a'r dyddiau'n rhewi
rhwng dy fodd a'th anfodd.
Wyt ti'n gaeth i dy filltir sgwâr di?
Ti'n colli arni, ti'n colli arni.