Terracotta (Gwenno Rework)
Popularity · Low
Listen
YouTube
0:00 / 0:00
Loading YouTube player...
Lyrics offset
Synced
Lyrics
Terracotta
Diffyg defodau
A diffyg paill ar ein tafodau
Blodau'r nos a chymun
Llafargan i'r llwyn
A gobaith wedyn
Anadl i'r gwacter
Clywed sŵn dy hunan yn y
Terracota uwch silff tân
Duwies y pethau bychain
Tir coch ei chorff hi'n dyst
Pethe mwy tu hwnt i hyn
Mae fy ffrindiau'n neud defodau
I'r tymor yn ei thro
Alban Eilir, heuldro haf a
Heuldro gaeaf hefyd
Gobeithio ga'i weld nhw eto
Arian eu gwynebau dan y lloer
Anadl i'r gwacter
Clywed sŵn dy hunain yn y
Terracota uwch silff tan
Duwies y pethau bychain
Tir coch ei chorff hi'n dyst
Pethe mwy tu hwnt i hyn
Ahh
Mae fy mabi'n hoff o bwyntio
Ar wyneb yr haul
Mewn cegin ger y môr yn Aberystwyth
Haul terracotta
Duw y pethe bychain
Gadael yr heulwen i mewn
Haul trwy'r ffenest danlli
Haul mewn ystafell gyfarwydd
I'r Gorllewin
Aur ar dy groen
Gwres ar dy feddwl
Haul terracotta
Gadael yr heulwen i mewn
Gadael y diwrnod i mewn